Page images
PDF
EPUB

Salve, sancta dies, quo solvimus annua cuncti
Gaudia, adorantes nostrum de more patronum.
Et tu, qui patrem vitæ virtute redonas,

Quique ornas titulos, decus et superaddis honori,
O salve! ante omnes salve, celeberrime Princeps!
O faveas populumque tuum, Britonumque tuorum
Accipias vota, et noster dignare vocari,

Summe puer, quem fama vocat, quem gloria adoptat,
Quem vasti pater oceani colit omnibus undis.

Tempus erit cum tu, non unquam indignus avorum,
Ast atavos qui mente refers et moribus æquas,
Ad Famæ templum portâ virtutis adibis,
Atque infra positos regesque sophosque videbis ;
Tempus erit, cum te-quâ gens nec inanior ulla,—
Gallia tota colet, mixtoque timebit amore;
In manibus tibi erit mundis dare jura futuris,
Et nondum inventis populis imponere leges.
Dum vestris læta auspiciis celeberrima floret
Cambria, jam prisci gens antiquissima mundi;
Tuque, velut montes nostrates, vertice cœlum
Sublimi feries, et cedet Laurea Porro.

Page 115, Line 5. Instead of ywedryd, read "i'w edryd".

Page 157.

The date of this poem should be 1755, and not 1775. The carefully-written MS. which we have copied, aud which, in general, is punctilious in its accuracy, is here at fault. The probability is that the year of its transcription was inserted instead of the date of its composition.

Page 187.

CYWYDD ANNERCH I'R PARCHEDIG GORONWY OWEN, Y PRIFARDD

GODIDOCAF YN YR OES BRESENNOL.

O LWYDIARTH-ESGOB YM MON.

1756. GAN HUW AP HUW

TRWY wir barch y'th cyfarchaf,

Di gŵyn, os cennad a gaf.

Dy swydd,-Duw 'n rhwydd it' a rhad--
Bugail eneidiau bagad;

A bardd enwog, bur ddoniau,

Gyff o'n gwlad i'w goffa 'n glau ;

Dyfalu 'r wyf dy folawd—

Pei medrwn mi weuwn wawd-
Nid cenfigen na gwêniaith

I chwi na 'ch galwad y chwaith;

Da ewyllys di allu,

Yw 'r syniad mewn cariad cu.
Y fwyn Awen, fy nuwies,
Darfu ei grym, dwrf a gwres ;
Hon er braw a'm gadawodd,
A byth ni chefais ei bodd;
Pwl fawlyd wy 'n palfalu
Mewn trwch o dywyllwch du.
Pwy 'n ail i ti, Paun elw teg,
Fur o ddawn y farddoneg?
Dy gywyddau da gweddynt
I'r oesoedd fu gyhoedd gynt.
Tynaist orchudd anfuddiawl
A'th nodded er gweled gwawl
Y Frutaneg, frwd heniaith,
Ardderchog wiw enwog waith.
Chwilio wnaethost a cha❜lyn
Am dlysau, prif doniau dyn.
Cefaist em, orau cyfoeth,

Sail fwya' ddawn Selyf ddoeth ;
Chwiliaist eilwaith, gan chwalu
Lafur y wlad, lyfrau lu;

Difyr oedd hyn yn d' afael,
A mwy i eraill y mael,
Hyd sail eigion Brythoneg,
A chael ei dawn â chwyl deg,
Gwir di fost, geiriau dy fin,
Tlysau dy frawd Taliesin,
A'th ymgais yn waith amgen
Na llewyrch haul Llywarch Hen.
Os aeth Homer i'r gweryd,
A'i gân yn euraid i gyd,
Y SEREN,1 ufudd wen fodd,
A'i thyniad ni thywynodd
Yn nydd Homer, glêr y glod,
Ddiau awch o Dduw uchod.
Y Seren hon, oedd siriol
Deg ei naws, a'n dug yn ol
O dywyllwch du allan
I lwydd yr efengyl lân.
Dyled fwy o daliad fydd
Ar a wyl ei reolydd,

Na 'r Pagan anniddan wg,
Tw' ollawl mewn tywyllwg;
Y cyfiawnhâd, cofiwn hyn,
Ein Porth i ni mae 'n perthyn;
Trwy Grist a'i groes fawrloes fu
Gwir awdwr i'n gwaredu.

Ffei! ffei! mi eithym yn ffol;

Siarad yn anfesurol;

D'wedyd gwers yn lle 'r Person,
Naws dwl, â'm anghynnes dôn!
Rhad Duw Naf ar dy lafur
A'i ffrwyth, heb adwyth, yn bur,
A'th winllan hardd, wiwlan wedd,
A ffyniant, wir hoff iawnedd.

1 Seren Jacob, sef ein Hiachawdwr Iesu Grist.

CWYNFAN MON AM EI PHLANT MAETH.

Trem o wylo, trwm alaeth,
I mi am fy meibion maeth,
LEWIS MON a GORONWY,

Dau fardd, ac odid dau fwy!
Dyfal pawb, dau afal per,
Meini dimwnd mwyn dymher;
Dau flaenor a glodforwn,
Dau rychor o'm goror gwn;
Pa drydydd brydydd o'm bro
Mor alawnt, am wir eilio,

A'r ddau wŷr hyn, ddiwair hawl,
A gyrch ystyr gorchestawl?
Iechyd iddynt heb ochain!
Hyd fedd anrhydedd i'r rhai'n !
Trugaredd, mawredd, Oen mau,
Amen: a nef i minnau !

AW DL

COFFADWRIAETH AM Y PARCHEDIG GORONWY OWEN :

GAN GUTYN PERIS.

Briw braw brwyn! mawr gwyn gaeth,-bradwy yn awr

Brydain wen, ysywaeth!

Dros Gymru llen ddu a ddaeth ;
Anhuddwyd awenyddiaeth.

Och! Och! ys gorthrwm ochain-mawr ynof

Am Oronwy Owain ;

Per wawdydd, prifardd Prydain,

Sy wr mud is âr a main.

Carwr, mawrygwr Cymreigiaith-ydoedd ;

Awdwr prif orchestwaith,

Wrth wreiddiol reol yr iaith;

Braw farw hwn, brofwr heniaith!

Meddiannydd mwy o ddoniau-ac Awen
Nag un yn ei ddyddiau ;

Prydai gerdd-pan'd prid y gwau ?—-
Gyson heb ry nag eisiau.

Yn iach Awen a chywydd ;
Darfu am ganu Gwynedd ;
Duw anwyl! rhoed awenydd
A doniau byd yn y bedd.

Ow! dir Mon, wedi rhoi maeth-i esgud
Wiw osgordd gwybodaeth,

Och ing a nych! angau wnaeth

I fro dewrion fradwriaeth.

P P

« PreviousContinue »