Page images
PDF
EPUB

roddi; ni dderbyniai chwedl enllibaidd am neb, yn enwedig am broffeswyr ; ac ni chlywyd erioed o'i thŷ hi un chwedl ddrwg, oganus, faleisddrwg, na dim gair o athrod ac enllib; ni bu enw neb yn waeth trwy ddim a ddygwyddodd yn ei thŷ; byddai yn dra gofalus am gadw at orchymyn Crist, "Cerwch eich gelynion, a gwnewch dda i'r sawl a wnant niwed i chwi." Yr oedd yn dra nodedig o ffyddlawn gyda'r ysgolion sabbothol; ni welwyd ei lle yn wâg un amser, oddieithr bod afiechyd yn ei lluddias. Da iawn fyddai pe gallem argraffu hyn ar feddwl holl aelodau yr eglwysi, yn hen ac ieuanc, fel y gallont ei efelychu. Yn ei chlefyd bu yn ddyoddefus; er fod y groes yn drom iawn a chwerw, dygodd hi heb rwgnach dim--cynnorthwywyd hi trwy râs i roddi ei hymddiried yn y Cyfryngwr mawr. Treuliodd nos Wener olaf o'i bywyd, yn ngwyneb ei phoenau mawrion, mewn gweddiau taerion wrth orseddfainc trugaredd, ac mewn ymddyddan santaidd â'i Thad nefawl; a chodai ei golygon, ac edrychai gyda golwg graff a hiraethlawn yn wyneb ei hanwyl briod, a dywedai ei bod yn myned i'w gadael oll, ond y dymunai gael byw am ddeng mlynedd yn ychwaneg, er mwyn cynnorthwyo ei hanwyl William i fagu a meithrin eu plant bychain; "ond etto," ebai hi, "nid wyf yn gofalu llawer am hyny, ond i mi gael gwybod fod fy mater yn dda." Y Sabboth, yn glaf iawn ac yn nghanol dirdyniadau ei chystudd, yr oedd ei phrofiad yn felys yn mhethau Duw, a'i serchiadau yn ysbrydol a duwiol. Dydd Llun (y dydd olaf o'i bywyd), yr un modd, yn nghanol ei phoen a'i lludded, myfyriai ar fawredd Duw, pan yn coffhau yr adnod yn Jer. 10, 23, "Gwn, Arglwydd, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gwr a rodio, y mae llywodraethu ei gerddediad." Gyda hyny llanwyd ei henaid o orfoledd, a chanai mor fwyn, soniarus, a threiddgar, nes peri syndod i'r rhai a'i cly wsant. Canodd pennill canlynol yn gerddgar iawn:—

Dyma Frenin, dyma Brophwyd,
Dyma Archoffeiriad mawr:
Brawd a Phriod i bechadur,

Ceidwad llon i lwch y llawr.

Ac a ddywedai, "Ie, Ceidwad Israel ydyw ef; bendigedig fyddo Ceidwad Israel, nis anghofiaf mo hono byth. O, gweddied Israel drosof fi, fe weddiaf finnau dros Israel." Cyn wyth o'r gloch galwodd yn hyglyw iawn ar ei phriod; gwnaeth yntau y brys mwyaf i ddyfod ati, ac a'i cymmerodd yn ei freichiau, ac yn nghanol ei hymdrech diflin, am ychydig wedi 3 or gloch, nos y 13eg o Dachwedd, daeth cer

byd Israel idd ei hymofyn gartref o freichiau ei hanwyl briod, ac o olwg ei dau feddyg. Fal hyn y cawsom golled am y fam hon yn Israel, yn nghanol ei chaniadau perleisiawl; ond os yn golled i ni, elw tragywyddol oedd iddi hi. Er hyny, ei phriod a alara ei golled ddirfawr, o herwydd ei amddifadu o amgeledd gymhwys a chariadlawn; dau fab, a thair o enethod ieuaine prydferth, a gânt ŵylo am golli un o'r goreu o famau; a thad a mam oedranus, a brawd a chwaer, a gânt achos i ofidio yn ddwys ar ol un o'r merched tirionaf ac anwyl, a'r chwaer fwyaf garuaidd a thirionaidd ; ïe, yr eglwys yn yr hon yr oedd yn aelod a deimla eisieu un a ymroddai i ymdrechu o blaid y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint; a chyfeillion lawer a gânt achos i alaru am un o'r mwyneiddiaf ei chyfeillach.

Nid dim o'i gwaith ei hunan oedd sylfaen ei chymmeradwyaeth gerbron y Tad, ond Crist a'i aberth mawr oedd yr unig sylfaen, ac ar y graig hon y canai mewn gorthrymderau. Byddai yn dangos parch mawr i ordinhadau yr Efengyl, nid ymfoddlonai ar unrhyw ffurf ddynol a thraddodiadol, i gael eu harfer yn lle gosodiadau euraidd y Brenin Immanuel.

Ar ddydd ei hangladd, sef dydd Iau, yr 16eg, daeth amryw o'r brodyr crefyddol yn nghyd, a pherthynasau y drancedig, i weini y gymmwynas olaf iddi; a chodwyd y corff o'r tŷ gan chwech o Ddiaconiaid yr Eglwys y perthynai iddi; yna cychwynasom yn arafaidd, bob yn ddau a dau, a'r ddau feddyg yn ein blaenu, tuag eglwys y dref, lle y darllenwyd y gwasanaeth angladdol gan Gurad y lle; yna gosodwyd ein hanwyl chwaer yn ei thŷ newydd, hyd y boreu mawr, pan y bydd Tywysog Iechydwriaeth yn canu yr udgorn diweddaf, i gasglu ei fyddin ynghyd i gydlawenhau mewn tragywyddol fuddugoliaeth ar bechod, angeu, a'r bedd. Pregethodd y Parch. O. Williams, gweinidog yr eglwys lle yr oedd yn aelod, bregeth ar yr achlysur yr ail nos Sabboth, oddiar Ioan 13, 7, fel arfer yn dra effeithiol, a chanmoladwy iawn gan bawb a'i clywsant; ac er cymmaint y dyrchafodd ein caredig weinidog gymmeriad Cristionogol ein hanwyl chwaer, fe ellir dywedyd fel y dywedodd Brenines Sheba, "Ni fynegwyd mo'r hanner."

Addfeder ninnau erbyn amser ein hymddattodiad, fel y caffom gydgyfarfod etto ar fryniau anfarwoldeb.

Mor hyfryd, yn y gwynfyd maith,
Fydd syllu'n ol ar lwybrau'r daith,
A threiddio'n mlaen drwy'r oes ddi lyth
I ryfeddodau Duwdod byth.
Treffynnon.

G. AB S. PRYS.”

Y FLWYDDYN NEWYDD.

DDARLLENWYR IEUAINC Y SEREN,-Dyma, ni yn awr wedi sengu ar drothwy y flwyddyn nesaf yn mlaen, yn ngyrfa dyfodiant, o bob un a dystiodd treigliadau amser hyd yma erioed. Oesau yn ol treiglai y naill flwyddyn ar ol y Ilall heibio yr un fath dros y myrddiynau a fodolent yn yr yspaid hyny yn nhreuliad amser. Daeth eu tymmor hwy i ben, ac aeth trosodd ; ac y maent wrth y torfeydd yn olynol wedi cyrhaeddyd byd didranc, yn yr hwn y bodolant heddyw yn fwy sylweddol nag y buont erioed yma. Treigla blynyddoedd olynol y ddaear yn mlaen hyd derfyn y llechres benodedig,-daw cyfnod cload i fyny ar fodoliaeth yr hil ddynol, gwawria boreu adgyfodiad y meirw, a chenfydd holl wrthddrychau presennol trefniant amser ddydd eu tragywyddol dranc; ond yn mhell pell cyn hyny, bydd i fyrddiynau o ddynolryw yn olynol ganu yn iach i farwoldeb: ac yn mhlith ereill, byddwn ninnau yn ebrwydd iawn yn treiglo dros y dibyn tymmorawl i ganol sylweddau bydoedd anweledig. Gallwn edrych ar gyflymiad ein hamser heibio megys yn cymmeryd lle gyda phrusurdeb na chenada un lle braidd i'r ymyraeth lleiaf â pherwylion y fuchedd hon, gan nad ynt ond cwbl wageddau. Nid yw ein breuddwydion daearol ond rhithiau disylwedd, diflana cysgodau ein dychymmygion rhwng ein dwylaw, ac yn nghanol bywyd yr ydym yn angeu. Pa beth yw ein bywyd? Awr-wydr ar ei ffo! Y ddoe ni wyddai bodolion am y fath rai â ni yn eu llechres-heddyw yr ym ar y daflen wedi ymddangos yn eu mysg, eyn y fory byddwn wedi ymgilio drosodd i'r tu arall i'r llen, mewn byd mwy sylweddol. Yn wir, erbyn ein bod wedi agor ein llygaid ar bethau, a dechreu gosod ein meddwl mewn parotöad er ymgydio, fel ereill, yn rhyw gyfran o berwylion y ddaear o'n hamgylch, byddwn wedi ein cipio o'r golwg i gyflwr arall o fodoliaeth. Dylai yr ystyriaeth hyn, pa fodd bynag, yn lle ysgogi difaterwch ac ymollyngdra, ein cynhyrfu i ddal yn ddioedi ar bob adeg yn nghyflawniad y rhanau priodol a phenodol i ni o ddybenion bodoliaeth creadur rhesymol ac anfarwol. Tra y mae ein hoes mewn dibaid ragafiad o flwyddyn i flwyddyn, trosa gydag ef bethau o'r pwys mwyaf-argyfyd gauadau dirgelfaoedd amser-symuda lèni caddug yn ei flaenfynediada dwg i fodoliaeth ac eglurder amgylchiadau cuddiedig oddiwrth bawb, amgen Hollwybodaeth Ddwyfol. Pan yr adgofiwn holl amgylchiadau y flwyddyn dreuliedig―amgylchiadau nad oedd genym y gradd lleiaf o

ragolygiad o honynt ar gychwyniad y flwyddyn -ac amgylchiadau na fu en cyffelyb yn llechres blwyddau ein hoes fèr; a phan y rhagolygwn o ganlyniad y geill y flwyddyn newydd hon, er yn hollol annysgwyliadwy, gynnyrchu amgylchiadau cyffelyb, neu ynte, ysgatfydd, amgenach yn eu pwysigrwydd, dylem deimlo awyddfryd adnewyddoli gydnabod goruwcholygiad a gofal mawr yr Arglwydd, ac i lwyr ymroddi iddo rhagllaw, gan ddywedyd, "Yn dy law di y mae ein holl amserau." Canfyddwn brofion. ychwanegol o neillduol ddaioni yr Arglwydd tuag atom yn ei ragluniaeth yn ei waith yn arbed ein hoes, ac yn ein dygiad yn mlaen ar hyd rhandeithiau y flwyddyn dreuliedig. Miloedd a'i dechreuasant fel ninnau, ond a droswyd i fyd o sylweddau cyn gweled ei therfyn. Y mae eu cyrff heddyw yn y babell oer, mewn gwely o dywyllwch a phridd-cysgodau hir-nos wedi eu lledu drostynt-llèni trwm canol nos wedi eu tynu oddiamgylch iddynt, a'r pryf yn gorwedd tanynt, ac hefyd yr un modd arnynt. Ac O! beth i ddywedyd am y cyfryw sydd yn ngafael y pryf nad yw yn marw, a'r tân nad yw yn diffodd, a aethant o Gymru grefyddol i uffern y flwyddyn ddiweddaf! Yr enaid wedi ei drosglwyddo i dragywyddol losgfeydd, eu gobaith wedi diweddu, a hwythau yn sudda îs îs yn nyfnder dychrynfeydd cydwybod euog ddeffreedig am byth; ïe, byth bythoedd. Ond arbedwyd ni i weled dechreu blwyddyu newydd-safwn heddyw ar gyhydedd bywyd amserol, ond erbyn y fory byddwn wedi ymlithro is gorwel daearfyd i fyd yr ysbrydoedd, i fodoli ar horizon tragywyddoldeb. Pa gymmaint o'r flwyddyn hon gawn fwynhau ar y ddaear?

"Ai marw raid i ni'n ddilai,
A'r tŷ o glai ymddattod?
'Raid i'r aelodau bywiog hyn
Falurio yn y beddrod"

cyn y terfyno y flwyddyn newydd hon? Bu farw miloedd y llynedd, rhaid i bawb farw rywbryd, o ganlyniad rhaid i ninnau farw, ac y mae yr amser yn anhysbys. Ond er hyny, diolch, y mae yr holl achosion dan oruwcholyg iad y Bod anfeidrol hwnw sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun, ac o fod mewn cydffurfiad â'i oruchel drefn ef y mae pob diogelwch byth. Wrth gychwyn, gan hyny, i mewn i'r flwyddyn newydd, gosodwn y crybwyllion canlynol i lawr:

1. Dylem gofio mai pwnc mawr i oes yw ymgyssegriad hollol i wasanaeth ein Creawdwr bendigaid. Nid oes dim arall yn wir werth byw mynyd er ei fwyn. Gallwn synu lawer

[ocr errors][merged small][merged small]

tro wrth agwedd y byd yn gyffredin o'n hamgylch, a gofyn, Pa beth yw dyben byw? Ymdroi heddyw yn holl drafferthion ffwdanus y fuchedd hon,-cyn y fory gwedi ffoi ymaith i fyd yr ysbrydoedd. Er hyny, medrir byw yn dawel a diofal, heb ymroddiad i Grist a'i wasanaeth. Byw, byw, byw; pa beth yw ei bwrpas, pe bai i fod dros gan mlynedd ? Gallem gloi i fyny holl berwylion byw yn nghanol ammheudeb disylwedd a diystyr, oni bai y golygem fyw erbyn byw byth. Nid oes ar y ddaear hon ddim o'r gwerth lleiaf, ond y bywyd hwnw sydd yn ragddarpariad ac yn arweinjad i mewn i'r bywyd tragywyddol. Pa beth bynag a ganolbwyntia yn hyn ag y sydd yn îs-wasanaethgar i hyn, y mae yn dda, yn ganmoladwy, ac yn rhinweddol. Ac yn y nodwedd yna yn gwbl y dylai fod holl ymyraeth tymmorol yr hwn a broffesa ei hun yn un o ddinasyddion y nefoedd. Dyeithriaid a phererinion ydynt hwy yn ngwlad y ddaear; tynu y maent tua gwlad eu cartref. Ni ddylai holl bleserau a mwyniant y byd gwael hwn, ar un llaw; na holl drafferthion, gofidiau, ac annedwyddwch yr anial, ar y llaw arall, dynu nemawr o'u sylw hwy, na bod o nemawr bwys yn eu golwg, ond cyn belled ag y daliant gyssylltiad ag achos eu gwlad eu hunain ; oblegid nid ynt ar unrhyw olwg arall yn perthyn iddynt hwy; nid ynt ond fei helyntion dyeithrig lletty noswaith; nid ynt ond megys golygfeydd gwlad gylchynol i deithiwr ar ben cerbyd yn cyflymu heibio. Gan hyny, dylem gyssegru ein hunain yn fwy trwyadl a ffyddlawn o hyd i holl achos Crist, yn holl ymarferiadau a dyledswyddau ein crefydd bersonol. Dylai bod yn ddiogel yn ngafael Crist ein hunain, a chael eneidiau ereill hefyd i'w afael, wneuthur i fyny brif bwnc awyddfryd ac ymroddiad ein hoes. Byw yn wir dduwiol yn bersonol rhyngom â'r Arglwydd, a byw yn ddefnyddiol yn ei wasanaeth i eneidiau ereill, yw sylweddol werth a dedwyddwch ein bywyd brau.

2. Dylem gofio mai gorphwysedig arnom hefyd yw cyflwyno holl berwylion ac amgylchiadau ein bywyd i sylw a gofal yr Arglwydd, er rhwyddhau ac effeithioli defnyddioldeb ein hoes. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac Efe a hyffordda dy lwybrau. Ymarfer, attolwg, ag ef, a bydd heddychlawn, o hyn y daw i ti ddaioni. Ni ddylem ymgynnyg at y peth Ileiaf yn ein perwylion cyffredin, fel bwriad, neu gyflawniad, neu anturiaeth newydd, heb gyflwyno y peth i sylw Duw-gofyn ei gyfarwyddyd, a dymuno ei lwyddiant. Ni phrofodd neb hyn o'r niwed lleiaf erioed. Na, bob

amser dygodd gysur a thawelwch meddwl. Y mae ysbryd ymroddgar i holl ewyllys Duw, teimlad yn medru ymddiried yn ddiysgog yn noethineb a daioni ei holl ffyrdd ef, a meddwl mewn cyflwr o foddlondeb ymarferol dan ei holl ymweliadau, yn gymborth grymus a dedwydd i ddal dan holl gylchdreigliadau a siomedigaethau chwerwaf y fuchedd hon.

3. Dylem gofio yn mhellach mai ein dyledswydd anhebgorol yw buddioli ein hunain â phob moddion, llwybrau, a chyfleusderau a gynnygia Rhagluniaeth Ddwyfol i'n sylw tuag at rwyddhau ac eangu amgylchiadau ein cysur a'n defnyddioldeb. Dylem gyflwyno ein holl achosion i law Duw, ac ar yr un pryd arfer pob moddion tebygol i droi allan yn llwyddiannus. Nid dysgwylwyr ac edrychwyr segur ydym i fod dan weinyddiadau Rhagluniaeth Ddwyfol. Ond gan nad yn mha ddull y treuliwn ein hoes, byddwn dros ei therfyn cyn bo hir. Ni wna holl dònau chwyrn cefnfor tymhestlog y byd hwn ond ein glanio yn y diwedd yn mhorthladd ANFARWOLDEB.

Yn awr, wrth derfynu hyn o ysgrif, gofynaf i ddarllenwyr y SEREN, Pa faint o honom sydd barod i farw? Dichon fod yn ysgrifenedig uwch ein penau heddyw, O fewn y flwyddyn hon y byddi farw. Y pechadur yn addaw iddo ei hun hir oes-llawn dedwyddwch ; ond Duw ar ei lŵ yn dywedyd, O fewn y flwyddyn hon, ïe, dichon y nos hon, y gofynir dy enaid. O anwyl hen bob, bron ar derfyn eich taith, pa fodd yr ymdeimlwch wrth feddwl am y glyn? Y mae y babell ddaearol yn ymddattod. A oes adeilad gwell yn y nefoedd? A ydyw y bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw? A ydyw yr angor yn ddiogel tu fewn i'r llen ? Hen bobl Duw, daliwch eich teimlad i fyny; er bod heddyw yn sŵn y rhyfel, yn mhoethder y frwydr, y mae ar derfynu,

"Ni phery'r ymdrech ddim yn faith,
Mae Iesu wedi blaenu'r daith."

Os yw yn arw yn hafan amser wrth barotoi y llong erbyn hwylio i gefnfor tragywyddoldeb, etto melys fydd wedi myned allan i'r ocean tragywyddol. Yr ydych bron wrth borth y nefoedd. Byddwch yn ebrwydd gyda'r dyrfa fawr yn cydamgylchu gorsedd y nef; a melys fydd adgofio taith yr anialwch o fryniau hyfryd Caersalem. 'Bryd hyn daw holl droion yr yrfa yn felys i lanw ein bryd." Hen bobl anmharod i farw. Cawsoch dri neu bed war ugain mlynedd gan Dduw er meddwl am farw, ac er byw i ogoneddu Duw ; ni threuliwyd un fynyd erioed yn ngwasanaeth Cyfryngwr a Cheidwad enaid; ac yn awr, wrth reswm, yr

66

ydych yn ymyl glan yr Iorddonen. Deuwch yn awr yn wirioneddol at Iesu. Y mae ei freichiau ar led yn gwaeddi, "Pwy bynag a ddêl, nis bwriaf ef ymaith ddim." Canol oed. Yr ydych yn gryf mewn nerth. Rhai sydd gyda gwaith Duw: yn mlaen â chwi drwy yr holl elynion, ceir rhoddi neibio y cleddyf cyn hir, i nofio yn dragywyddol mewn moroedd llawn o hedd, allan o sŵn gofidiau a threialon yr anialwch. Y flwyddyn hon caiff cannoedd o honoch chwithau fyned i'r nef. Byddwch ffyddlawn am ychydig bach. Ac O! chwithau, ganol oed digrefydd; yr ydych yn lladd eich defnyddioldeb, yn yspeilio Duw o'i ogoniant, a chwi eich hunain o'ch dedwyddwch! Ymgyssegrwch heddyw i'r Arglwydd, rhag na cheir cyfle mwy. Ac O, anwyl gyd-ieuenctyd; er ein bod ninnau yn ieuanc iawn mewn dyddiau, gallwn, er hyny, fod yn nhragywyddoldeb cyn diwedd y flwyddyn hon. O'r miloedd o ieuenctyd aeth yno y flwyddyn ddiweddaf rhai oedd yn hyfrydwch llygaid eu rhieni-rhai a arddangosent hir oes yn eu gwynebpryd— rhai oedd yn obeithiol yn ngolwg eglwys Dduw i lanw lleoedd teidiau mewn dyddiau dyfodol; ond y maent wedi ymadael. Ow! fyned o rai ō honynt i'w hargel wely! Y maent wedi marw !! Cymhorth i ni fod yn ffyddlawn gyda chrefydd. Efelychwn siamplau rhinweddol ein tadau a'n mamau yn Israel, a ffown oddiwrth chwantau ieuenctyd. Rhai sydd yn eloffi rhwng dau feddwl gyda golwg ar grefydd, penderfynweh heddyw. Ac O, yr anystyriol, bydd barod i gyfarfod â'th Dduw. Er ein bod oll wedi bod yn dra anffyddlawn, a llygredig, ac anweddaidd ein hymddygiadau y flwyddyn ddiweddaf, ac er fod pechodau y flwyddyn oll yn ysgrifenedig ar gof-lyfr mawr pechodau y byd; etto, diolch, yr ym yn cael dechreu y flwyddyn ar chwareufwrdd amser; a draw o'm blaen y gwelaf yn ysgrifenedig ar faniar o WAED, "Pwy bynag a ddêl. Trugaredd i bechadur edifeiriol." Blwyddyn newydd dda i chwi.

[merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small]

ain yn aelodau o'r "Cynghrair." Hyd y flwyddyn hon, yr oedd y teimlad gwrthwynebus i ddeddfau'r ŷd i'w ganfod bron yn llwyr yn mhlith y gweithfeydd a'r llaw-weithyddion ; a'r amaethwyr, o'r tu arall, yn bleidiol iddynt, ac yn edrych arnynt fel yr unig wrthgloddiau rhyngddynt a dystryw, ac eu hunig elfenau bywyd. Cyhoeddai tir-feddiannwyr y deddfau hyn yn noddfa i'r amaethwyr ; ac yr oeddent hwythau mor anwybodus a hygoelus ag edrych arnynt fel amddiffynfeydd rhag cyfyngderau. Fel hyn y mae y ffermwyr wedi bod am flynyddau; ond yn awr, yn Lloegr a'r Alban, y mae goleuni wedi llewyrchu arnynt, fel y maent yn dechreu canfod pethau yn wahanol, ac yn gwaeddi efo'r Cynghreirwyr, "Down with the Corn Laws." Byddai ffermwyr Cymru hefyd yn uno â hwynt, pe byddent yn darllen mwy, ac yn ystyried gweithrediadau y deddfau hyn, yn eu gwahanol gyssylltiadau, yn fwy manwl. Cynnygiaf rhai resymau i sylw mwyaf ystyrbwyll ffermwyr y Dywysogaeth, tuag at egluro natur niweidiol deddfau hyn. Sylwch, ffermwyr, yn fanwl arnynt.

Mae y deddfau hyn yn wrthwynebol i ddeddfau natur. Trefnodd Awdwr natur, i anghenrheidiau bywyd fod wrth law, ac yn hawdd i'w cyrhaedd. Meddyliwch am yr elfen ddwfr, nid oes modd i fyw heb hon. Mae dwfr gerllaw, fel nad oes mynydd na bryn heb ffynnon yn tarddu o honynt, nac un dyffryn nad oes afon yn rhedeg drwyddo i lesoli'r tir a lloni'r trigolion. Felly, bara yn un o anghenrheidiau penaf bywyd. Bara yw ffon bywyd; nid oes dim yn debyg i fara i borthi'r natur ddynol. Dyna deulu tlawd, y rhai nad oes ganddynt fara, ac yn wrthddrych teilwng tosturi'r haelionus. Y teulu heb fara, nid oes wroldeb yn eu hysbryd, na nerth yn eu cyfan-, soddiad i weithio. Gan fod bara mor rheidiol, trefnodd natur i'r ydau dyfu yn ein meusydd yn ein hymyl, fel y gallwn gael ein bara yn ein gwlad ein hunain, heb groesi clawdd Offa, na'r moroedd llydain. Rhwyddineb i fwynhau rheidiau bywyd, yw deddf Duw mewn natur. Pwy bynag a neidia rhyngom a'n bara, neu a dafla unrhyw rwystr rhyngom a'n bara, fel nas gallwn gael ein bara yn y ffordd rwyddaf, sydd yn droseddwr ar ddeddf natur. Tybiwyf am danoch chwi, ffermwyr, nas gallwch fod yn gysurus yn eich cydwybodau, eich bod yn attegu deddfau ynt yn croesi deddfau Duw, a'u gwneuthur yn ddirym, ac na fyddwch yn llonydd nes y byddont wedi eu llwyr ddiddymu.

Nid yw deddfau'r ŷd erioed wedi ateb dyben

eu sefydliad. Wedi terfyn brwydr Waterloo, canfyddodd perchenogion etifeddiaethau nad oedd yn bosibl i brisoedd tiroedd ddal i fyny yn amser heddwch, fel yn nhymmor rhyfel; ac o ganlyniad, cafwyd Cyfeisteddfod Seneddol, i edrych i mewn i sefyllfa amaethyddiaeth, a chafwyd ffermwyr o bob parth o'r deyrnas i ddwyn eu tystiolaethau ar y mater, y rhai a gytunasant i dystio yr anmhosiblrwydd iddynt drin eu tiroedd, os na byddai'r gwenith o ́80s. i 90s. y grynog. Felly, yn y flwyddyn 1815 y gwnaethwyd cyfraith y sliding scale, i ddiogelu 80s. neu 90s. y grynog i'r ffermwyr am eu gwenith; a thra yr oedd ein Seneddwyr yn llunio'r gyfraith, yr oedd cymmaint o gyffro a gwrthwynebiad y tu faes, fel yr oedd y llywodraeth yn gorfod cadw milwyr o gylch y Senedd i'w diogelu i lunio'r ddeddf ddrygionus hon. Gellir ei galw, deddf y cleddyf, y pylor, a'r plwm.

Cofier, mai dyben y ddeddf hon oedd diogelu pris gwenith yn 80s. neu 90s. y grynog; a ydyw wedi gwneuthur hyny? Prisiau yr ŷd yn y blynyddau a ganlyn a ddengys nad ydyw: 59 0 1836 ....46 5

1829

[blocks in formation]

Oddiwrth y cyfrif uchod canfyddir nad yw'r deddfau hyn wedi ateb dyben eu sefydliad, sef cadw pris y gwenith o 80s. i 90s. y grynog; ac o ganlyniad, ni ddylent fod yn hwy mewn bodoliaeth, gan nad ydynt wedi cyrhaedd eu dyben.

Mae tir-feddiannwyr wedi defnyddio'r deddfau hyn i ddarbwyllaw'r ffermwyr i gredu eu bod yn effeithiol i attal ydau tramor i mewn, yr hyn a fyddai, ebe hwynt, yn ddinystr i brisiau ŷd Prydain. Nid dyfodiad ydau tramor i mewn sydd yn niweidio'r ffermwyr, fel y me ddylia llawer o honynt, ac y dywedant, os gallant gadw'r wlad heb ydau tramor, y cânt hwy y pris a fynant. Camsynied hollol yw hyn. Pe byddent yn gywir, byddai mwy o ydau tramor yn y blynyddoedd y mae prisiau yr ŷd yn isel, a llai o hono pan mae'r pris yn uchel. Beth yw y gwir am hyn? Pa fodd y mae wedi bod? Bob amser, pan mae pris yr ŷd yn isel, nid oes ond ychydig o ŷd tramor yn dyfod i'r deyrnas hon; ond pan mae y pris yn uchel, y dygir ef i mewn. Os edrychir i'r hanesion, ceir am y blynyddoedd 1834, 1835, a 1836, pan oedd pris cyfartal yr ŷd yn 45s. y grynog, ni ddygwyd i mewn ond 122,175 grynog o ŷd. Y blynyddoedd 1838, 1839, ag 1840, pan oedd pris cyfartal yr ŷd yn 67s. 2g. y grynog, dygwyd

i mewn o ŷd tramor 7,858,500 grynog. Dengys hyn yn amlwg, mai nid cyflawnder o ŷd tramor sydd yn gostwng prisiau'r ŷd. Felly, nid cadw ŷd tramor o'r wlad hon ddylai'r ffermwyr ystyried yn fantais iddynt, ond cefnogi marchnatwyr a brynant eu nwyddau. Mae dau beth yn iselâu pris yr ŷd, sef cynauaf toreithiog a ffrwythlawn, ac anallu'r werin i brynu bara. Y mae dau beth yn codi prisiau'r ŷd, sef cynauaf ysgafn, a gallu'r bobl i brynu ŷd. Felly, pan mae pris yr ŷd yn dda, nid oes gan y ffermwr ond ychydig i werthu ; os bydd y cynauaf yn doreithiog, a'r pris yn uchel ar yr un amser, y mae hyny yn ymddibynu ar lwyddiant llawweithyddiaeth, bywiogrwydd masgnach, a chyflwr dedwydd a chysurus y bobl. O ganlyniad, dylai y ffermwyr er eu lles eu hunain gefnogi'r hyn sydd yn ffafriol i fasgnach, ac i wrthwynebu pob cyfraith, megys deddfau'r ŷd, pa rai ydynt erioed yn niweidio llaw-weithyddiaethau, masgnach, &c., ac yn attalfa i'w ffyniant.

Mae sliding scale Syr Robert Peel a'i gyfeillion y Toriaid yn effeithio yn ddinystriol ar ffermwyr y wlad hon, drwy iselau pris yr ŷd pan y mae ganddynt lawnder i werthu, ac yn wastad yn codi'r pris pan nad oes ganddynt ddim i'w gymmeryd i'r farchnad. Dyma weithrediadau cyffredin y sliding scale. Gŵyr y fferm wyr, ond iddynt feddwl, fod pris yr ŷd yn uchel ychydig cyn y cynauaf, pan nad oes gan y ffermwr ddim i werthu, ond bod llawer o honynt ar rai blynyddau yn gorfod prynu ; a gwyddant hefyd, mor fuan ag y byddant wedi dyrnu, bydd pris yr ŷd wedi dyfod i lawr. I'r dyben i egluro i chwi gywirdeb y gosodiad hwn, dangosir i chwi yn gyntaf bris cyfartal yr ŷd yn misoedd Gorphenaf ac Awst, ac hefyd eu prisoedd yn Medi a Hydref, o'r flwyddyn 1829 hyd 1841, yr hyn a ddengys fod prisoedd yr ŷd yn llai yn amser y cynauaf, o wythfed y cant, nag oedd ychydig cyn hyny :

[blocks in formation]
« PreviousContinue »