Page images
PDF
EPUB

cholli pan droisant at Herod i Jerusalem, i ofyn yn mha le y ganed Brenin yr Iuddewon; a'r casgliad oddiwrth hyn yw, nad gwiw myned at annuwolion i ymofyn am Grist. Attolwg, pwy sydd yn myned? Ond ar y ffordd tua Bethlehem, dyma y seren yn ymddangos eilwaith er eu mawr orfoledd; a hwy a gawsant y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a'i osod yn y preseb, medd rhai.

Yn awr, y gofyniad yw, A arweiniodd y seren y doethion yr holl ffordd, ai naddo? A oedd y baban yn y preseb, ai nad oedd? Beth allasai oedran y mab bychan fod yr amser hwnw ?

Nid yw y gofyuiadau yn feithion, ac y maent mewn tyminor addas. Os byddwch chwi, MR. GOMER, neu rai o'ch gohebwyr deallus, cystal a thalu sylw iddynt, efallai y byddai i ryw oleuni gael ei roddi ar y pwnc; ac fe fyddai hyny yn foddlonrwydd i mi, yn gystal ag i lawer o ddarllenwyr y SEREN. Blwyddyn newydd dda i chwi, ac iechyd i arolygu SEREN 1844.

[blocks in formation]

MR. GOLYGYDD,-Gan fod eich SEREN ysplenydd yn gyfrwng gwybodaeth i holl hil GOMER, gobeithiaf y byddwch mor garedig â rhoddi lle i'r gofyniadau canlynol o fewn ei thudalenau. Cyfeiriaf hwynt at y Parch. D. Jones, Caerdyf.

1. Clywais ef yn haeru o'r pwlpud, uwchben torf oddeutu 400 o bobl, ar hwyr Sabboth yn ddiweddar, nad oedd yr Arminiaid yn credu fod anghen cynnorthwy yr Ysbryd Glan tuag at argyhoeddi pechaduriaid. Ai yn "History of the Baptist Mission" Dr. Cox; neu, yn "Bickersteth's Scripture Help," y cafodd ef hyn? Taer ddymunwyf ar Mr. Jones roddi atebiad i hyn; os yn gadarnhaol, cyfeiried at y tudalen, fel y gallwyf ei weled fy hun; os yn nacaol, dyweded yn mha le arall y gwelodd hyn; neu mai opinion a darddodd yn ei ymenydd ef ei hun ydyw.

2. A ydyw yn unol â rheoiau y Testament Newydd, fod Gweinidog yr Efengyl, wedi bod yn pregethu ar hwyr y dydd, yn myned yn y man o'r addoldy i'r tafarndy, ac yn gwneyd ei hun yn llawen yn nghwmpeini haid o anffyddwyr, wrth siarad am bethau crefyddol.

Os bydd y Parch. D. Jones mor fwyn â rhoddi atebiad cydwybodol, trwy gyfrwng y SEREN, i'r gofyniadau uchod, teimlaf yn ddiolchgar iddo. X. Y. Z.

Cross Keys, Caerdyf.

MR. GOMER,--Crefaf eich cenad, trwy gyfrwng eich SEREN ddysclaer, i ymddyddan gair â Mr. Aelod, awdwr llyfryn cildwrn llyfrwerthwyr Caerdyf, sef, Y Lladmerydd.

Mr. Aelod,-Dywedwch yn eich Lladmerydd fod Clwb yn bodoli yn Mynwy a Morganwg, sef, y Cwrdd Gweinidogaethol, ac yn mhlith ereill, dywedwch fod y Parch. Thomas Davies, Victoria gynt, (yn awr o Gaersalem Newydd,) yn aelod o honaw. Cefais gyfleusdra i ymddyddan ag ef, a thystiodd wrthyf, na bu ef erioed yn un o'r cyrddau a soniwch am danynt; ac felly nas gall fod yn aelod o'r fath Glwb (a phe bai, beth am hyny, Mr. A.?) Yn awr, gofynaf i chwi, Mr. Aelod, Pa bryd-pa le-a

pha fodd, yr aelod wyd y brawd Davies? Ai teg neu annheg oedd ei aelodi yn y fath Glwb heb gymmaint a gofyn ei ganiatâd? neu, pwy a ddywedodd wrthych chwi ei fod wedi ei aelodi, os dywedodd rhywun ?-os na ddo, beth a barodd i chwi osod ei enw i mewn? Byddai yn fuddiol i chwi, er mwyn eich cymmeriad, roddi atebion buan; canys y dyb gyffredin yn yr ardaloedd hyn yw, mai eich hunanolrwydd a'ch cynhyrfodd, a bod eich egotism gymmaint, fal yr ystyriwch nad oes neb yn deilwng i esgyn i un o'r areithfaoedd a gyssegrwyd am dymmor gan eich person symudol chwi!! Ac os rhyfyga rhywun wneuthur hyny, nis gwaeth genyeh pa anwireddau a gyhoeddwch am dano, gan ymdrechu ei suddo yn y "potuu lliwio," pa rai sydd wedi bod mor fuddiol i chwi a'ch TAD, er lliwio "dynion yn goch ac yn ddu." Ond cs na fedrwch ymddadrus, gwel pawb eich bod wedi syrthio i bot eich tad; ac odid na fyddwch yn drewi drcs naw pherth a heol."

Yn bresennol gadawaf chwi, yn ngolwg eich. pleidwyr calonog, yn ymdroi yn eich anwireddau, ar faes y SEREN, gan ddywedyd, fod y Philistiaid arnoch chwi, Mr. Aelod; a thebygol fod y rheffynau anwiredd â pha rai y rhwymasoch eich hun, yn rhy gedyrn i chwi eu tori, er diane. Ond rhag idd eich esgyrn ddolurio, ac i'ch dynoliaeth bwysig suddo o'r golwg, wrth orwedd yn hir yn yr un man, o dosturi atoch, hwyrach y rhoddaf dro i chwi etto un o'r misoedd nesaf.-Yr eiddoch,

[blocks in formation]

BETH ydyw'r hen elynes
Oedd gynt yn amser Cain,
A chyda meibion Jacob,
Ymwelodd hi â rhai'n ?
Bu hefyd ar Galfaria

Yn uchel iawn ei phen,
Yn mysg y genedl hono
Groeshoeliodd Frenin nen.
Gwnaeth hon effeithio'n rymus
Ar lawer yn y byd;
Mae etto mewn bodoliaeth
Yn para'r un o hyd.
Mae hon y dyddiau yma

'N fwy grymus nac o'r bla'n, O fewn y dywysogaeth

Mae'n achos llawer tân. Mae hon yn ngwlad y gwaeau, Gan deulu'r fagddu fawr ; Dymunaf ar ryw Gymro Ro'i enw hon ar lawr.

Glyn Ebw.

DENI

PRYDDEST,

Ar Farwolaeth MR. J. W. THOMAS, (Arvonwyson.)

Fy ngwlad O fy ngwlad! Mor aml dy golledion! Mor fawr yw dy ofid! Mor erchyll dy gur! Gwaed-lifa dy fynwes o ddirif archollion

A wnaed gan bicellau mwy blaenllym nâ dur! Aberoedd o ddagrau o'th lygaid sy'n ffrydio, Pob deigryn sydd halltach nâ moroedd y byd! Yn weddw ac unig yr ydwyt yn wylo,

i

Heb ronyn o gysur í loni dy fryd !

Fy ngwlad! O fy ngwlad! Un ergyd yn rhagor
A holltodd dy galon anwylaidd yn ddwy !
Dylifa dy drallod mal tónau y cefnfor,

A phob ton yn gwneuthur dy drallod yn fwy:
Dy fab Arvonwyson yn mlodau ei ddyddiau,

Yn ngwanwyn ei fawredd ddisgynodd i'r bedd! Ei haul a fachludodd îs duon gymylau,

Tywyllwch marwolaeth orchuddiodd ei wedd!
Fy ngwlad! O fy ngwlad! Aml buost mewn galar,
(Dy hanes sydd gofres ry orlawn o wae!)
Am syrthiad dy feibion bu fynych yn drydar
A thestun dy ofid sydd etto'n parhau.
Blinderus yw genyf archolli dy deimlad,
Wrth grybwyll am enw mor anwyl i tir,
Ond etto rhaid ini gyd-lunio galarnad

Am un a deilyngodd anrhydedd a bri.
Fy ngwlad! O fy ngwlad! Dy fab Arvonwyson,
Hoff blentyn hawddgarol dy fynwes nid yw!
Yr adgof am dano a ddryllia dy ddwyfron,
Blin ydoedd ei golli o dalaeth y byw !
Trist ydoedd y diwrnod pan ymaith ehedodd
Ei enaid mawreddig o'r babell o glai;
O'i garchar daearol ei feddwl ymwthiodd,
A thithau adawodd i wylo'n ddidrai.

Fy ngwlad! O fy ngwlad! Er cymmaint a wylaist,
Am ddewrion ryfelwyr,-prif arwyr eu hoes;
Er maint am dy feirddion gwladgarol riddfenaist,
(A cholli meib Awen nid elli'n ddiloes ;)
Ffynnonell dy ddagrau sydd etto'n ddihysbydd,
O, tywallt hwy'n helaeth gan hyny yn awr,
I wlychu llwyd annedd yr enwog Athronydd,
Sy'n huno yn llonydd yn oergell y llawr.

Fy ngwlad! O fy ngwlad! Pan ydwyt a'th ddagrau,
Yn hoff berarogli ei wely o bridd;

Mae natur yn dyfod yn wlybion ei gruddiau,
I gwrdd a thi yno ar doriad y dydd;
Cyffyrdda ei bysedd â thelyn ei galar,

Yr odlau a gana yw gofid a chwyn;

Acenion ei halaeth drwy'r awel sy'n trydar,
Nes deffro i gyd-gân gerddorion y llwyn.

Fy ngwlad! O fy ngwlad! Clyw Natur yn griddfan,
Wrth rifo y tlysau addurnent ei ben;
Wrth adrodd y perlau a roddodd i Ioan,
Dwys alar ymdaena o'i ddeutu mal llén ;
Y deall godidog a harddai ei feddwl,
Oedd seren danbeidiawl luniesid gan hon;
A chofio i'r seren ddiflanu dan gwmwl,

Droe'n ddiluw o ofid nes suddo ei bron.
Fy ngwlad! O fy ngwlad! Mae Natur yn cilio,
Wrth fedd Arvonwyson nid erys yn hwy!
Try ymaith yn athrist gan drwm ocheneidio,
A rhwyg pob ochenaid ei chalon yn fwy;
Ond aros di ronyn, Athrylyth ddynesa,
Mewn trymder prudd-glwyfus i edrych ei fedd,
Ac fel ei mam Natur, hyhithau lesmeíria,

Wrth ganfod ei babell mor salw ei gwedd.
Athrylith ac yntau a ddifyr ymdeithient,

Rhwng bàn fryniau Arfon yn moreu ei ddydd ;
'Rhyd llethrau'r chwareli y mynych gydrodiet,
Ac am eu hysgariad mawr gyni y sydd;
I demlau Llenyddiaeth bu hi yn ei arwain -
Trwy fyd o gyfyngder ei dilyn a wnaeth,
A hithau at feddrod ei hen gyfaill mirain

I dywallt ei deigryn serchiadol a ddaeth.

Fy ngwlad! O fy ngwlad! Gwel etto Athroniaeth, Yn dod yn fyfyriol i edrych y fan;

Mae hithau mal ereill yn gwelwi gan hiraeth,
Wrth weled mai yno bu diwedd a rhan,
Y dewr Arvonwyson fu gynt yn ei hoffi,

Gan ddilyn ei llwybrau yn ddyfal ei fryd;
Ond weithian sy'n huno heb elyn i'w boeni,

O gyrhaedd holl ddadwrdd blinderus y byd. Gwyddbwyllion a'r Celfau* a brysur gyflymant, I offrwm eu teyrnged o barch ar ei fedd, Ac hawdd ydyw eanfod, y chwerw alarant,

Os unwaith edrychir ar ddwysder eu gwedd;
Y rhai'n gyda'u gilydd mewn trymllyd riddfanau,
Gydblethant alargerdd ddolefus a maith;

I roddi darluniad o'u dwfn ocheneidiau,
Rhy egwan yw meddwl-diallu yw iaith.
Tybiasant fod Jubil dy feibion yn nesu,

I ddod o gadwynau tywyllwch yn rhydd ;
Galwasant eu trefnus fyddinoedd i Gymru,
Gan feddwl y buan ennillent y dydd-
Y gyrid aflerwch i ddianc o'n brodir,

Mal ellyll di roesaw i'w geudwll ei hun;
Bwriadent enwogi dewr feib dy fynydd-dir,

Ond pallodd eu gobaith, pan gollodd e'i ffûn. Meddylient am drefnu eu lluoedd i'r ymgyrch, A rhoi Arvonwyson yn flaenor y gâd; Gobeithient y cyflym dreiddiasai eu llewyrch, I'th gonglau tywyllion, o Gymru, fy ngwlad ! Amcanent o Ioan gael arwain dy feibion,

I ddeall dirgeloedd cyfundraeth y sêr;
A rhodio drwy'r awyr i weled teleidion
Y bydoedd a grewyd â bysedd ein Nêr.
Bwriadent i feibion Caradog gael gwybod

Am ansawdd y deddfau reolant y môr;
Trwy hyny meddylient eu dwyn i gydnabod
Anfeidrol ddoethineb a gallu yr Iôr.
Prydferthwch holl natur amcanent ddadlenu,
Er dangos y Crëydd drwy'r cyfan i gyd;
Ond gwywodd eu gobaith,-trom ergyd i Gymru
Oedd tranc Arvonwyson, a cholled i'r byd.
Llenyddiaeth ymsymud mewn dirif gyfrolau,
I dywallt ei deigryn er harddu ei fedd ;
Mae gwaith Arvonwyson ei hun yn ei breichiau,
A'r adgof o hono yn newid ei gwedd;

[ocr errors]

Ei "Athraw i'r Cymro" i lawr dyry'n ddestlus, "Elfenau Rhifyddiaeth yn golofn o'i glod, Y cywrain "Eiriadur" a luniodd mor fedrus, Fynega am dano tra Arfon mewn bod. "Trysorfa'r Athrawon," a'i gwerthfawr gynnwysiad, Fythola eangder ei ddeall a'i ddawn;

Ond siomwyd pob gobaith,-i dranc aeth dysgwyliad,

O drallod a galar Llênyddiaeth sydd lawn;
Try ymaith yn athrist, gan adael y Cymro,
Mewn daear estronol yn farw a mud;

Er maint ei enwogrwydd--a chlai yn ei guddio,
Mewn culgell dywodlyd o olwg y byd.

Fy ngwlad! O, fy ngwlad! Ti welaist y dyrfa
Fu yna'n dolefain ar feddrod dy gardd; †
Ti glywaist eu cwynion am Herschel hen Walia,
Y breiniol Seryddydd, Athronydd, a Bardd:
Ti welaist eu dagrau uwch oerlwch yr Ieithydd,
Gwrandewaist brudd-dônau eu galar a'u cri;
Wyf bellach am wrandaw galargerdd y Celfydd,-
Mae afon a redodd o'th friw fynwes di.

Caiff rhuad y tònau a olchant dy lenydd,
A chwiban yr awel ar gopa y bryn,

A dwndwr soniarus dy lithrawl gornentydd,
A si' dy afonydd ar waelod y glyn,
Gydlunio pedwar-llais i ddadgan yr odlau-
Yr odlau a luniaist heb linell o hedd-
Yr odlau ysgrifaist â ffrydlif o ddagrau,-
Gad ini eu gwrandaw cyn gadael ei fedd.
Fy mab! O, fy mab! Ai yma mae'th drigfa?
Yn mhell o dy artref! Yn alltud o'th fro!
Och, fi! nad rhyw lanerch yn naear Arfonia
A gawsit i huno mewn gwely o rô!
Fy mab! O, fy mab! Fy Ioan anwylaf,
Yn nghanol dy fawredd, terfynodd dy oes!

Arts and Sciences. † Cardd, an Exile.

Pan harddid dy lwybrau â'r blodau prydferthaf,
I'r byd anweledig yr Angeu a'th droes!
Fy mab! O, fy mab! Archollwyd fy nghalon
Pan glywais dy farw yn mhell o dy wlad!
Llewygais pan drengodd yr hoffaf o'm meibion,
Ac uchel yr wylais yn herwydd y brâd!
Fy mab! O fy mab! Mae cofio'th serchogrwydd,
Yn gwaedu fy enaid, yn rhwygo fy mron,
Rhy anhawdd im' deimlo am fynyd yn ddedwydd,
Rhy anhawdd im' edrych am eiliad yn llon !
Fy mab! O, fy mab! Dy ang ddysgeidiaeth,
A'th rymus Athrylith a'm llonent cyn hyn;
Hoff genyf dy weled yn dilyn Athroniaeth
Pan araf y rhodiet is godreu y bryn;

I demlau Liênyddiaeth y'th welais yn dringo,
Trwy'r llwyni gwyrddleision ar aelgerth y nant;

A dwys y gofidiwn pan byddit yn cwyno,

O herwydd na roddid it 'nawdd gan fy mhlant.

Fy mab! O, fy mah! Wylofais y diwrnod,
Y gwelais di ymaith o'm brodir yn troi ;
Chwyrn gurai fy nghalon,-a sefais mewn syndod,
Pan oeddit, mal alltud, o Gymru yn ffoi;
Dywedais, ai tybed y gwna fy anghofio;

Yn nghanol estroniaid, a gwadu ei iaith?
Na! na! mi atebais, rhy anhawdd i Gymro,

O fath Arvonwyson, wneyd hyny ychwaith.
Fy mab! O, fy mab! Mawr oedd fy llawenydd,
Pan oeddit mal eryr yn esgyn i'r nen-
Pan uchel ymgodit drwy nerth dy adenydd-

Pan oeddit yn myned yn Greenwich yn ben; * Ond gwisgais dywyllwch teimladwy i'm cuddio, Pan welais dy syrthiad yn nghanol dy nwyf; Dy godwm a barodd i'm henaid lesmeirio,

A gwaedodd fy nghalon gan ddyfnder y clwyf!

Fy mab! O, fy mab! Yn iach i dy weled
Yn rhodio fy mryniau-gorphenaist dy waith!
Llaw ruddgoch yr Angeu a gauodd dy lygaid,
Yn ardal marwolaeth dybenaist dy daith.
Cwsg, ynte, yn dawel îs si yr awelon,

Nes gwawrio y boreu gor gyflawn o hedd,
Y cenir yr udgorn i ddeffro y meirwon,

I gwrdd yn yr awyr-ORCHFYGWR Y BEDD!

GWYNEDDON,

Sef EVAN JONES, (IEUAN GWYNEDD.)

Y GAUAF.

ER hardded oedd ei wedd, y rhosyn glwys,
Ei ffriw yn delaid oll, a'i wrid yn dêg;
'E ddiflanasant ei rinweddau dwys,

Ei olwg ddysclaer, a'i arogliad chweg.
Y ddalen werddlas ar y goeden draw,
Medd hen Dderwyddon, addurn oedd i'r wig,
A chwythwyd ymaith gan y gwyntoedd ffraw:
Mae'r goeden fawr yn weddw, a moel ei brig.
Glaswellt îr, yd melynwyn, toraeth mawr,
Perthynasau haf, ynt ar ddarfod oll;
Yn aros nid oes un o honynt 'nawr,
Mewn galar ydym am eu myn'd ar goll.

Ni welir gwennol, ac ni chlywir côg,

Holl ednaint tramor enciliasant draw; Ac ar ein hirwydd ni cheir ffrwythau 'nghrog, Ac i'w denu'n ol nid oes haf gerllaw. Mewn ffwdan prysur ni cheir unrhyw lancYn ymdaith trwy y gelltydd ar ei chwil, Am nythod adar nid yw'n fawr ei wanc; Mae'r allt yn unig, ac mae'r plant ar gil. Yr hwsmon, dan belydron haul y nen,

Nid yw'n ymchwysu mewn caledwaith mawr, A'i awydd am wel'd gwres y dydd ar ben; Och lleithder du, ac oerfel sydd yn awr.

* Superintendent at the Greenwich Royal Observatory.

Ystormydd gwylltion, gwyntoedd croch a blwng,
Sy mewn cyffro ;-a llongau'n wael eu gwedd,
Ar fin eu drylliad, och! a boddi rhwng
Gwanegau'r môr mewn dyfrllyd, oerllyd fedd.
Ar arall ddydd y gwelir barug gwyn,

A mantell eira yn gorchuddio'r wlad;
Ac yn ia caled rhewodd dwr y llyn,
Nes yw'n llithredig iawn o dan ein tra'd.
Ymaith rhedo'r Gauaf. O groesaw,
Haf!
A'th wenau'n amled ag ynt wlith y glyn,
Ag anian wedi gwisgo'i dillad braf,

A thymmor dedwydd hafddydd fydd pryd hyn.
TALIESIN CRAIGYFELIN.

Cribyn, Ceredigion.

DYN A ANED I FLINDER.

WRTH ganfod rhai o fawrion byd, Ar arffed hyfryd hoen,

Na feddwl fod y rhai'n i gyd

I fyn'd trwy'r byd heb boen. Y mae tyrfaoedd yn mhob man, A'u griddfan gan bob un; Trwy'r bywyd tristwch yw eu rhan, I alar ganwyd dyn.

Llawer a blin yw'r drygau sydd
Y'mhleth trwy natur wan;
Mwy chwerw etto 'n bywyd fydd,
Gofidiwn yn ein rhan.

Ar wyneb dyn, o weithred Nef,
Yn addien mae gwên gu;
Ac am greulonder dyn i ddyn,
Myrdd yn galaru sy'.

Gwel ȧcw dlawd lafurus wr
Yn gofyn gan ei frawd,
Am genad i lafurio'r dda'r,
Er cynnal teulu tlawd.

A gwedd arglwyddaidd ei gyd bry'
Ddirmyga archiad hwn,

Diystyr yw, er dagrau'r plant, 'A'i wraig a'i chalon dwn.

Os

yn fwriadol gaethwas, frawd, Trwy gyfraith natur wyf,Paham rhowd annibynol reddf Mewn bron, i fawrhau'r clwyf? Os nac wyf, p'am gostyngwyd fi Dan ffyrnig ddirmyg hwn? Paham rhoed gallu nwydau dyn, I wneyd ei frawd yn dwn? Ac etto ni oddefwn chwaith

I hyn wneyd bron yn friw;
Y drych hwn ar ddynoliaeth gu,
Nid y diweddaf yw.

Y tlawd tan ormes ei gyd bry',
Yn wir ni chawsai fod,
Pe na bai taliad etto'n ol,
Er cysur îs y rhôd.

O angeu! cyfaill y tlawd,
Gwas tirion wyt i mi;
Henffych i'r awr y câf fi ddod
I orwedd i'th oer dy.
Dy ddyrnod ofna mawrion byd,
O'u rhwysg fe'u gyrir hwy ;
Y duwiol tlawd a gaiff ryddhad
O'i wae a'i ofid mwy!

Llynlleifiad.

-MORILUS.

AR DDIWEDD OEDFA.

O ARGLWYDD DDUW y lluoedd,
Gwna drugarhau yn awr,
A danfon râd fendithion
O'r nefoedd glân i lawr ;
Cyfrana i bob enaid

Sydd yma ger dy fron,
Gwna waith cei glod am dano
Pan losgo'r ddaear hon.

[graphic][subsumed][merged small][merged small][merged small][merged small]

ystyriaethau fod llong o'r defnydd hyn yn addas iawn i Affrica. Yn gyntaf, ni bydd nemawr o draul ar yr hwle; yn 2, Ni bydd eisieu ei chopreiddio; yn 3, Y mae yn ysgafnach ac yn tynu llai o ddwfr; yn 4, Y mae yn gyflymach yn ei symudiad; ac, yn well nâ'r cwbl, yn fwy diogel. Mae hon yn agerlong, ac hefyd at hwyliau. Pan na byddo'r hwyliau yn ateb, gyrir hi gan yr ager. Mae gyda hi beiriannau yn gydradd â gallu ugain ceffyl (horse power), a gyrir hi yn y blaen nid fel llongau ager cyffredin, ond gan ddyfais newydd, a elwir yr Archimedean Screw. Ei hyd yw 70 troed., a'i lled yw 15 troedfedd. Y mae ynddi ddau gaban; un at wasanaeth y morwyr, a'r llall i'r Cenadon. Y mae'r olaf yn 20 troedfedd o hyd, ac a gynnwysa 6 o Genadon, ie, 12, os bydd anghen. Bwriadir iddi fordwyo o 800 i 900 o filldiroedd ar ororan Affrica, yn cynnwys dim Hai nà 40 o afonydd. Chwanegodd yr adeiladydd, sef Mr. John Land, 10 troedfedd at ei hŷd, a dwy droedfedd at ei lled, ar ei draul ei hun. Rhoddodd Patentees y Screw hanner y draul. Rhoddodd cyfaill arall yr holl offerynau llongwriaethol anghenrheidiol at ford wyo. Costiodd y llong uchlaw £2,000.

Adeiladwyd y llong hon yn Llynlleifiad, ac wedi ei gwthio i'r môr, cadwyd cyfarfodydd crefyddol mewn cyssylltiad â hi, cyn ei hymadawiad, dydd Iau, Rhag. 13 diweddaf, yn y boreu, yn nghapel Lime-street; cadwyd cwrdd gweddi, a chadwyd cwrdd tea yn yr hwyr yn ystafell ddarlithiel capel Penfro, pan anerchwyd y presennolion yn hyawdl rhyfeddol, gan y Parchedigion James Lister; P. J. Saffery; C. M. Birrell; Mr. Walters, cadben y Dove; Mr. Milburn, is-lywydd; Mr. Thompson, peiriannydd; a Mr. Thompson, Manceinion. Dealla'r Affricaniaid bydd amean ymweliad y Dove à gwlad y Negro yn wahanol i lawer o longau L'oegr. Ymwelodd lluoedd â hwynt er mwyn lledrata dynion, a myned â hwy yn gaethion. Dywedir fod 500,000 o drigolion yn flynyddol. yn cael eu cymmeryd o Ethiopia gan ladron dynion, ac nad oes ond 130,000 yn cyrhaedd y trefedigaethau yn fyw. Felly, y dinystrir tua 370,000 o ddynion bob blwyddyn; ond cyhoedda'r Dove ryddid i'r caeth, a chyfrana iddynt Siarter y Bywyd. Ymddengys, oddiwrth lafur y Cenadon eisoes yn Affrica, y bendithia Duw hwynt i lesoli trigolion Ethiopia, heibio i cynnyg arall o eiddo dynion.

bob

CYFARFOD BLYNYDDOL TABOR, DYFED.

Cynnaliwyd y Cyfarfod uchod ar y Mawrth a'r Mercher, y 9fed a'r 10fed o Ionawr, 1844. Nos gyntaf, ain chwech, darllenodd a gweddiodd y Parch. O. Jones, Cilfowyr; a phregeth

odd

Parchedigion J. Lloyd, Ebenezer, a R. Owens, Abergwaen, oddiar Heb. 9, 24, a Math. 5, 13. Dranoeth, am 10, darllenodd a gweddiodd y Parch. R. Owens; a phregethodd y Parchedigion T. G. Jones, Beula, W. Thomas, Blacnywaen, i'r morwyr, a D. Rees, Aberteifi, oddiar Luc 23, 31, Hag. 1, 5, a Heb. 4, 15, 16. Am bump, darllenodd a gweddiodd y Parch. J. Williams, Bethel, ger Lanfyllin; a phregethodd y Parchedigion J. Morris, Bethabara, D. Jones, Felinganol, ac O. Jones, Cilfowyr, oddiar Dat. 20, 11-13, 2 Cor. 5, 20, 21, a Gen. 7,

23; a therfynwyd y Cyfarfod trwy weddi a mawl. Rhoddwyd yr emynau allan gan y Parch. L. Lewis, esgob y lle. Yr oedd y canu a'r pregethu uwchlaw canmoliaeth. Dywed dymion call wrthyf fod canmol cyfarfodydd da yn afreidiol, os byddant yn canmol eu hunain, a diammau fod Cyfarfod Tabor felly. Yr oedd gwenau Duw ar y Cyfarfod oll. Casglwyd yn helaeth at ddileu y ddyled arosol ar eu haddoldy rhagorol, ac y maent yn penderfynu dileu y cwbl heb bwyso ar neb ereill. Mwy o'u tebyg fyddo yn llenwi Cymru, yw dymuniad Glanteifi. T. AB IEUAN.

CWRDD GWEINIDOGAETHOL HIRWAEN.

Cynnaliwyd Cwrdd o'r nodweddiad uchod ar y Mawrth a'r Mercher, 19eg a'r 20fed o Ragfyr diweddaf, yn Hirwaen. Llawenydd oedd genym weled yr holl weinidogion, y rhai oeddynt yn fwy o rif nag arferol, wedi dyfod yn nghyd yr hwyr cyntaf.

Am

Am saith, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y brawd D. Morgans, Pontytypridd ; a phregethodd y Parchedigion J. Rowe, Risca, oddiar Salm 97, 1, 2, a James Richards, Pontytypridd, oddiar Actau 26, 28, 29. ddeg, boreu dranoeth, darllenodd a gweddiodd y brawd T. Evans, Dinas; a phregethodd y Parchedigion D. Ll. Isaac, Pontypwl, oddiar Rhuf. 3, 24, 25, D. Rhys Stephen, Casnewydd, yn Saescneg, oddiar 2 Cor. 4, 1, 2, ac E. Jones, Casbach, yn Gymraeg, oddiar Job 36, 18. Am ddau, dechreuwyd gan y brawd J. Roberts, Pontytypridd; a phregethodd y Parchedigion H. W. Hughes, Castellnedd, oddiar Math. 15, 23, Wm. Thomas, Bethel, oddiar Rhuf. 8, 18-23, a D. M. Williams, Rummi, oddiar Luc 11, 1, 2. Am chwech, dechreuwyd gan un o'r brodyr Trefnyddol; a phregethodd y Parchedigion T. Davies, Merthyr, oddiar Luc 19, 10, D. Evans, Llaneurwg, oddiar Rhuf. 3, 21, 22, a William Roberts, Tredegar, oddiar 1 Pedr 3, 19, 20.

Wrth ail ennyn y teimladau a gynhyrfwyd yn fy mynwes fy hun wrth wrando fy mrodyr parchedig, yr wyf yn cael eu bod wedi dyfnhau ac nid diflanu; a meddyliwyf y byddai amlygu y rhai hyn yn hanes cywir o'r rhan bwysicaf o'r Cwrdd, ei effeithiau ar feddyliau y gwrandawwyr liosog a ymgynnullent i'r lle. Yr oedd y pregethau yn cynnwys sylweddol fwyd enaid, a digon o hono wedi ei drin yn flasus, a'i osod yn drefnus o flaen pechaduriaid; nid er mwyn dangos yr ymborth, ond gyda golwg i ddenu rhai newynog i gyfranogi o hono; a meddyliwyf na chafodd un pechadur yno le i feddwl taw cell wair ag ef oedd y pregethwr, trwy ddangos y bwyd ac heb roddi un cefnogaeth i ymborthi arno. A barnu y Cwrdd oddiwrth y Cwrdd ei hun, nid oes din yn fwy eglur i'r meddwl diduedd nag ei fod wedi ei bwrcasu a'i gyfaddasu i bregethu yr efengyl gyda golwg at les eneidiau dynion.

Yn nyddiau yr apostolion, buasai dyben fel hwn yn ddigonol i gyfiawnhau a chymmeradwyo unrhyw ymgynnulliad mewn unrhyw le; ond yn ein dyddiau ni thâl ef ddim, oddieithr yn unig pan fyddo'r ymgynnulliad yn ateb i amserau cyssegredig, megys bob chwarter, nen bob blwyddyn; ïe, mae eglwysi cyfain wedi

« PreviousContinue »